Disgrifiad
Hunangofiant y chwaraewr rygbi chwedlonol John Davies, wedi ei gydysgrifennu gan Wyn Gruffydd, y sylwebydd rygbi. Bu John yn un o gewri rheng flaen Castell-nedd a Llanelli am flynyddoedd lawer, enillodd 34 cap i Gymru, ac mae’n cael ei gydnabod fel un o chwaraewyr caletaf a mwyaf cyson y gêm dros yr ugain mlynedd diwethaf.





