Disgrifiad
Trydydd pecyn lliwgar a deniadol yng nghyfres ddarllen Fflic a Fflac, yn cynnwys ugain o lyfrau difyr. Bwriad y llyfrau yw annog plant yn y Cyfnod Sylfaen i ddarllen Cymraeg yn annibynnol, ac felly seiliwyd y llyfrau ar gynnwys DVD Pecyn 3 Fflic a Fflac: Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen, gan fod y plant eisoes yn gyfarwydd â’r eirfa a’r patrymau iaith.











