Disgrifiad
Hunangofiant Geraint Lloyd, y darlledwr adnabyddus o Geredigion. Mae Geraint yn un o’r bobl hynny sydd wedi bod yn ddigon lwcus i gael byw a gweithio yng Ngheredigion ar hyd ei oes. O weithio mewn siop, mewn garej ac yna ym myd y cyfryngau, bu’n ddigon lwcus i fyw ac ennill ei fara menyn yn ei filltir sgwâr.






