Disgrifiad
Cymru wledig yn 1869: Ymddengys bod Sarah Jacob yn llwyddo i fyw heb fwyta, gan synnu meddygon, yr eglwys a’r gymdeithas sy’n farus am stori ryfeddol. Beth yw’r gwirionedd y tu ôl i’w stori? Plethir gwyddoniaeth a chrefydd, llên gwerin a’r natur ddynol mewn hanesyn sy’n troi o gwmpas marwolaeth merch ifanc ddiniwed.





