Disgrifiad
Mae’r Llew yn methu aros i weld y Parêd ar y Stryd Fawr – yn enwedig y Lorri Goch Fawr! Wrth i’r amser fynd heibio, mae’n neidio i mewn i’w gar ac yn chwipio drwy’r jyngl. Ond ar y ffordd, mae’n dod ar draws ffrindiau sydd hefyd angen help i gyrraedd yno. Bob tro mae’n stopio, rhaid i’r Llew ddewis rhwng rhuthro i’r parêd neu roi help llaw.







