Disgrifiad
Trydydd casgliad o gerddi’r offeiriad Anglicanaidd Peter Walker, sy’n archwilio thema ysbrydolrwydd oddi fewn ac oddi allan i’r Eglwys yng Nghymru – y modd y mae weithiau’n gwrthdaro yn erbyn ac weithiau’n ymestyn yr hyn a olygwn wrth fod yn ‘ysbrydol’, a’r modd y gall ymdeimlad o le effeithio ar ein canfyddiadau a’n gwaith.









