Disgrifiad
Mae gan dref Llanelli hanes hir a disglair. Datblygodd yn gyflym yn ystod y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda thwf y diwydiannau glo, tun a dur, ac ennill iddi’i hun y llysenw ‘Tinopolis’. Yr oedd hefyd yn un o ganolfannau pennaf Anghydffurfiaeth Gymreig a Chymraeg, a adlewyrchir yn ei phensaernïaeth grefyddol.

















