Disgrifiad
Mae popeth y mae Teigr Bach yn ei glywed yn y goedwig yn newydd ac yn gyffrous. Ond bob tro mae’n adrodd am y rhyfeddodau hyn wrth ei fam, ei hateb yw, ‘Pan na fyddi di’n eu clywed, bydd yn barod, fy mab. Mae Arglwydd y Goedwig yma!’ Oherwydd ei fod mewn penbleth, mae Teigr Bach yn holi ei ffrindau i’w helpu i benderfynu: Pwy yw Arglwydd y Goedwig?



