Disgrifiad
Collodd llinell reilffordd Casnewydd i Flaenafon ei wasanaeth cludo teithwyr ym mis Ebrill 1962, ond mae Rheilffordd Treftadaeth Pontypwl a Blaenafon yn defnyddio rhan o’r llinell ar lefel uwch. Cynhwysir traethawd ar hanes y llinell a ffotograffau o’r injans, y trenau a’r gorsafoedd.











