Disgrifiad
Mae’n rhaid taw mwyngloddio yw diwydiant hynaf y wlad, ac mae’r gyfrol hon yn adrodd hanesion am ddynion (a menywod) sydd wedi treulio’u hoes yn gweithio o dan ddaear. Mae’n stori ddramatig, gyda dau ryfel, brwydrau yn erbyn peryglon llifogydd a ffrwydriadau, ac yn aml, yn erbyn perchnogion y pyllau.












