Disgrifiad
Casgliad o 30 o deithiau cerdded ar hyd gogledd Cymru, o’r Gogarth hyd at Fae Cemlyn. Er bod nifer o deithiau cerdded ar hyd y gogledd yn cynnwys llawer o fynydd-dir, mae’r teithiau yn y gyfrol hon yn talu mwy o sylw i’r gwastatir, megis dyffryn Conwy a Phenrhyn Llŷn.















