Disgrifiad
Cymunedau gwasgaredig yn sir Benfro yw Mynachlog-ddu, Llangolman a Llandeilo. Dros y degawdau diwethaf gwelwyd newidiadau dirfawr yng ngwead y gymdeithas. Fe fu bydolwg llawer o’r mewnfudwyr yn fodd i werthfawrogi gogoniant y fro o’r newydd, ac mae’r gyfrol ddwyieithog hon yn giplun o fywyd trigolion cesail y Preselau.









