Disgrifiad
Ewch ar daith ffotograffig gyda’r ffotograffydd bywyd gwyllt arobryn, Drew Buckley, wrth iddo arddangos ei luniau o’r aderyn môr mwyaf adnabyddus yn y DU – y pâl. Gan fod ganddo angerdd dros byliaid, treuliodd Drew dros ddegawd yn arsylwi ac yn tynnu lluniau o’r adar hynod ddiddorol hyn ar ynys fach Skomer, oddi ar arfordir Cymru.

















