Disgrifiad
Dyma gasgliad o 52 o gerddi (4 ohonynt heb eu cyhoeddi o’r blaen) gan R. S. Thomas i’w wraig, Elsi – Mildred E. Eldridge, arlunydd o fri. Ceir yma holl hynt eu perthynas, o’r myfyrdodau cynnar ar eu carwriaeth, hyd at y marwnadau yn dilyn ei marwolaeth. Cyhoeddwyd i ddathlu canmlwyddiant geni R. S. Thomas. Rhagair gan Rowan Williams.







