Disgrifiad
Mae’r cerddi hyn wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn naear dwyrain Maldwyn, Pumlumon a’r gororau. Llefydd a chymeriadau’r ardal ar hyd y canrifoedd sy’n britho’r tudalennau, o Lanrhaeadr-ym-Mochnant i Lanidloes ac o gyfnod Glyndŵr – a chynt – hyd at Siartwyr Llanidloes, Nansi Richards a Laura Ashley.











