Disgrifiad
120 o ffotograffau yn dathlu dylanwad rygbi ar gymunedau trwy Gymru. Lluniau dogfennol o chwaraewyr, cefnogwyr a gwirfoddolwyr yn mwynhau gêm genedlaethol Cymru gan ddarlunio sut mae rygbi’n effeithio ar wahanol elfennau o’r gymuned. Cyfrol unigryw a safonol y bydd pawb sydd naill ai wedi chwarae neu gefnogi rygbi yn gallu ei gwerthfawrogi.






