Disgrifiad
Cyfrol wedi’i darlunio’n hynod o hardd mewn lliw llawn, yn dwyn ynghyd waith ymchwil manwl ac archif yn cynnwys miloedd o ffotograffau, gan gynnig yr astudiaeth drylwyr gyntaf o ffenestri lliw yng Nghymru, ynghyd â’r datblygiadau yn y maes o’r bedwaredd ganrif ar ddeg hyd heddiw.















