Disgrifiad
Mae Ben a Theo Cabango yn ddau frawd hil gymysg o Gaerdydd, a’r ddau yn sêr ifanc yn y byd chwaraeon. Mae Ben yn chwaraewr pêl-droed i dîm Abertawe ac wedi bod yng ngharfan tîm Cymru, a’r brawd bach, Theo’n gwneud enw iddo’i hun yn y byd rygbi. Cawn yr hanes drwy 4 persbectif gwahanol – y ddau frawd a’r rhieni.



