Disgrifiad
Dyma stori’r gantores chwedlonol o’r 80au, Bonnie Tyler, a fagwyd mewn tref fechan, lofaol yn ne Cymru mewn teulu mawr oedd yn ymddiddori mewn cerddoriaeth o bob math. O ganu yn yr eglwys, lle synnodd y gynulleidfa, i ddatblygu’n eicon byd-enwog ac yn drysor cenedlaethol, cadwodd yn driw iddi hi ei hun trwy gydol ei gyrfa lwyddiannus.




