Disgrifiad
Astudiaeth atyniadol o hanes cymdeithasol sy’n gosod yn ei gyd-destun fywyd a gyrfa John Squire, cymeriad dylanwadol ym mywyd cerddorol nifer o drefi yn ne-orllewin Lloegr a de Cymru, gan ddarlunio ymwneud cymdeithas daleithiol â chreu cerddoriaeth glasurol ym Mhrydain yn Oes Fictoria.












