Disgrifiad
Canllaw hwylus i ddeg taith gylchynol ym Mhenrhyn Llŷn, penrhyn tawel heb ei ddifetha sy’n cynnwys clogwyni isel a chilfachau tywodlyd, tlws, pentref chwarelyddol Nant Gwrtheyrn a adferwyd a thafarn Tŷ coch, Porthdinllaen ar fin y traeth, ynghyd ag Ynys Enlli hudolus a’i brain coesgoch.



