Disgrifiad
Casgliad o gerddi trawiadol gan Yvonne Reddick, a enillodd iddi wobr Mslexia. Dyma gerddi sy’n ymgodymu â marwolaeth tad annwyl a ffrind agos y bu farw’r ddau ohonynt wrth fynydda. Mae iaith bigog mynydda, ynghyd â sillafau ysgithrog enwau lleoedd yn yr Alban yn creu darnau llachar eu gwead a gafaelgar eu mynegiant.












