Disgrifiad
Hanes Thomas Williams, a anwyd ym Mhenmachno, Gwynedd, ac a weithiodd fel teiliwr hyd nes iddo ymuno â’r Liverpool Scottish Regiment ym mis Tachwedd 1915. Fe’i clwyfwyd yn Ffrainc, a threuliodd beth amser yn ysbyty Ashton-under-Lyne. Wedi dychwelyd i faes y gad, fe’i saethwyd a’i gipio, cyn ei gaethiwo mewn gwersyll carcharorion yn yr Almaen.










