Disgrifiad
Gyda llwyddiant Llewesau Lloegr yng nghystadleuaeth Ewro 2022 daeth gêm bêl-droed y merched i ganol y llwyfan gan fwynhau sylw digynsail. Ond dyma ganlyniad degawdau o ymdrech i sicrhau bod pêl-droed merched – a waharddwyd gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr am hanner can mlynedd – yn cael ei gydnabod yn gyfartal â phêl-droed y dynion.













