Disgrifiad
Mae gan sir Benfro arfordir hardd a garw, ynghyd â thraethau tywodlyd, mân, ond o deithio’n fewndirol, cewch lwybrau coetir ardderchog ar hyd glannau nentydd byrlymus a thrwy goedwigoedd hynafol. Mae taith gerdded trwy’r goedwig yn felyster i’r holl synhwyrau – mae’r aer yn bur a’r amgylchedd yn dawel a heddychlon.





