Disgrifiad
Casgliad o erthyglau pwysicaf yr Athro Gruffydd ar y cyfnod rhwng tua 1640 ac 1900 yw’r gyfrol bresennol. Ynddi cawn drafodaethau golau ar rai o awduron mwyaf arwyddocaol y Gymraeg. Fel Y Ffordd Gadarn o’i blaen, mae’r gyfrol hon yn gyfuniad nodedig o ysgolheictod disglair, dawn dweud ac argyhoeddiad Cristnogol dwfn.




