Disgrifiad
Trwy lens Heddlu De Cymru, dyma gyfrol sy’n adlewyrchu ar y newid yn rôl yr heddlu mewn cymdeithas, ac a ysgrifennwyd gan swyddogion heddlu ac ymchwilwyr ar y cyd. Ymdrinir â phynciau allweddol megis heddlua’r gymuned; ymchwiliadau troseddol mawrion; atal trais; rhywedd a heddlua; technoleg yr heddlu; ac arweinyddiaeth.



