Disgrifiad
Dewch am dro i Gaernarfon… i’r Oval i glywed cân y Caneris i ben Twthill i ryfeddu at banorama mynydd a môr i Gei Porth yr Aur, noddfa’r ymylon. Tref ei phobol ydi Caernarfon Angharad Price – tref fywiog, liwgar, herfeiddiol – ac yn yr ysgrifau celfydd hyn cewch gip ar y llecynnau bach yno sy’n werth eu trysori.




