Disgrifiad
Cyfrol ddifyr, llawn ffotograffau, yn olrhain ffeithiau rhyfeddol am yr ynysoedd amrywiol a geir oddi ar Ynys Môn, a hynny ar hyd y canrifoedd. Ynddi, ceir hanes seintiau ac eglwysi Celtaidd, llongddrylliadau, goleudai a badau achub, porthmyn moch a physgotwyr, adeiladwyr pontydd ac adaryddion.



