Disgrifiad
Y flwyddyn yw 2059, a rhaid i Noa Blake sefyll arholiad er mwyn aros yn ei chartref, ond caiff Jack, ei ffrind o’i phlentyndod, ei anfon i dir gwlyb, clwyfus, lle mae’n debygol o farw. Mae Noa a’i chariad Raf yn addunedu i achub Jack, ond er iddyn nhw dorri drwy’r ffens a goroesi anturiaethau peryglus, tybed a fedran nhw ddychwelyd?



