Disgrifiad
Rhanbarth Abertawe oedd un o dirweddau diwydiannol dwys cyntaf y byd modern, ac yng nghanol y dirwedd honno yr oedd Camlas a awdurdodwyd gan Ddeddf Seneddol (1794) ac a oedd yn darparu system drafnidiaeth a alluogodd gyfres o ddiwydiannau rhyngwladol i ddatblygu a ffynnu – copr, haearn a dur, tunplat, a glo.




