Disgrifiad
Wedi marwolaeth ei dad mewn damwain yn y felin gotwm, mae William sy’n bedair-ar-ddeg oed, yn wynebu plentyndod anodd yn y wyrcws. Pan mae ei ewythr Seth yn ei alw i ddod ato i fyw, mae William yn credu bod ei fywyd yn mynd i wella, ond yng nghartref ei ewythr mae William yn darganfod cyfrinach dywyll ac ofnadwy.



