Disgrifiad
Cyfrol hwyliog a lliwgar sy’n dathlu camp y ddeuawd boblogaidd o Ben Llŷn, John ac Alun, sydd wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ar draws Cymru dros chwarter canrif. Bydd yr hogia yn ein tywys ar hyd eu taith ddifyr dros y blynyddoedd. Cawn rannu eu hatgofion personol a chawn glywed gan eu ffans, gan gynnwys criw y Cwt yn Llanberis!



