Disgrifiad
Adargraffiad, gyda nodiadau llawn, o hunangofiant cynnes B. L. Coombes, yn portreadu caledi a brawdgarwch bywyd dosbarth gweithiol clos y glöwr yn ne Cymru, gyda chyflwyniad llawn gwybodaeth am waith yr awdur gan Bill Jones a Chris Williams. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1939; adargraffwyd yn ei ffurf bresennol yn 2002.



