Disgrifiad
Mae’r Rhufeiniaid wedi cipio Perganiedix, bardd y Galiaid, a’i roi dan glo yn y Syrcas Maximus. Ei ffawd yw cael ei daflu i’r llewod. I’w gadw rhag y dynged erchyll hon, rhaid i Asterix ac Obelix ffeindio’u ffordd i lawr yr arena. Gyda thorf enfawr o Rufeiniaid yn disgwyl, mae gan Asterix ac Obelix sioe a hanner wrth gamu allan fel gladiatoriaid!



