Disgrifiad
Ffuglen am Eleanor Boone ddeg oed a ddiflannodd o’r dorf ar yr union adeg y cafodd J F Kennedy ei lofruddio, ac sy’n parhau ar goll hanner can mlynedd yn ddiweddarach. Tybed a welodd hi rywbeth? Nofel am deulu, cariad, colled a gwirionedd, ac am y modd y gall un eiliad mewn amser newid popeth. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2013.



