Disgrifiad
Ffuglen wedi’i gosod yn dilyn berw’r ymladd yn 1066. Dilynwn hanes Tancred, marchog sydd wedi ennill parch a statws, a maenor ar y Gororau. Yng nghanol y cythrwfl, caiff Tancred ei benodi’n arweinydd y cyrch yng Nghymru. Dyma’i eiliad fawr – bydd naill ai’n llwyddo ac ennill goruchafiaeth, neu’n syrthio oddi wrth ras.




