Disgrifiad
Mae Better Houses Have Windows yn olrhain symudiadau’r awdures, o gyfnod plentyndod i oedolyn, trwy gyfrwng darnau creadigol llawn ffraethineb a rhyfeddod. Mewn cyflwr o ddadleoliad parhaus, symuda o babell a charafan sipsi i dreulio cyfnod byr mewn ysgol breswyl, ac o lety i eiddo wedi’i rentu y gall ei alw yn gartref, bron.



