Disgrifiad
Ysbrydolwyd y stori gan Ben-y-bont ar Ogwr, lle magwyd yr awdur, a lle digwyddodd nifer o hunanladdiadau ar droad yr unfed ganrif ar hugain. Dilynir grŵp o bobl ifanc ar noson ddiflas mewn tref fechan, ddiobaith o’r enw Goregree, a cheir pinsiaid dda o hiwmor tywyll a dychan cymdeithasol hunllefus yn britho’r stori.



