Disgrifiad
Ar 15 Mehefin 1215, gorfodwyd y Brenin John i gyfarfod â’i farwniaid gwrthryfelgar yn Runnymede. Oherwydd eu diffyg ffydd ynddo, gorfodwyd y brenin i arwyddo siarter a baratowyd ganddynt. Hwn oedd y Magna Carta, dogfen chwyldroadol a heriodd awdurdod brenhinol mewn modd nas gwelwyd erioed o’r blaen.



