Disgrifiad
Casgliad o ffotograffau Colin Edwards, wyneb cyfarwydd mewn achlysuron brenhinol, o aelodau’r teulu brenhinol yn cwmpasu chwe degawd, ac yn cynnwys delweddau o’r Frenhines, y Fam Frenhines a Diana, Tywysoges Cymru yn bennaf. Cynhwysir hefyd atgofion yr awdur o’i gyfarfyddiadau ag aelodau’r teulu.



