Disgrifiad
Dwy nodwedd naturiol eithriadol Llŷn yw ei harfodir a’i bryniau. Wedi cwblhau ei chyfrol A Welsh Learner’s Ramble Along the Llŷn Coastal Path (2012), roedd Jean Brandwood, sy’n teimlo’n angerddol dros gerdded a thros ddiwylliant, yn ysu am lunio ail gyfrol. Y tro hwn, penderfynodd droi i gyfeiriad y bryniau.



