Disgrifiad
Wrth iddo ymlacio yn Ne Ffrainc mae Alecs Rider, asiant anfoddog MI6, yn gallu teimlo o’r diwedd fel unrhyw fachgen arall pedair ar ddeg oed – nes i ymosodiad sydyn, didrugaredd ar ei ffrindiau ei daflu’n ôl i mewn i fyd o drais a dirgelwch. Y tro hwn mae MI6 yn troi’u cefnau arno, ond mae Alecs yn benderfynol o ddilyn trywydd y bobl a…



