Disgrifiad
Yr ail deitl mewn cyfres o lyfrau coginio tymhorol yn cynnwys 30 o ryseitiau hafaidd sy’n dathlu bwydydd ffres a chynhwysion gorau’r haf. Cynhwysir ryseitiau delfrydol ar gyfer y barbeciw teuluol ac ar gyfer mynd am bicnic yn y parc, a cheir lluniau trawiadol gan y ffotograffydd bwyd Huw Jones.



