Disgrifiad
Dyma gasgliad o gerddi teimladwy am ran go arbennig o’r wlad – sef ardal cymoedd ôl-ddiwydiannol de-ddwyrain Cymru – sy’n gymdeithas glòs, gynnes a chynhaliol. Magwyd Aneirin Karadog yn ardal Pontypridd, ac mae’n debyg, waeth i ble bynnag yr aiff yn y byd, mai bachgen bach o Bonty fydd e byth.



