Disgrifiad
Cyfrol sydd yn cofnodi hanes a datblygiad y bardd gwlad yng Nghymru gan roddi sylw arbennig i feirdd gwlad Ffair-rhos yng Ngheredigion. Ceisia’r awdur ddadlennu cymhellion prydyddol a natur y berthynas rhwng beirdd a’u bro, arlunwyr naïf a’u cymuned a ffotograffwyr a’u gwrthrychau gwerinol, gwledig.











