Disgrifiad
Mae Between the Boundaries yn dilyn cwrs un flwyddyn gan drafod pynciau megis arferion dyfrgwn, teithio o Gymru i Awstralia a datblygiad systemau cyfrifiadurol. Mae’r cynnwys yn ddoniol, yn procio’r meddwl ac yn cynnig mewnwelediad, gan daflu golwg ar yr hyn sy’n gorwedd o dan y ffiniau ar draws y byd, bod hynny yn weladwy neu’n anweladwy.



