Disgrifiad
Ganed Jeffrey Weeks yn y Rhondda yn 1945, i deulu o lowyr. Wrth iddo dyfu, teimlai’n ynysig o fewn cymuned glos y cymoedd, a dwyshawyd y teimlad hwn pan sylweddolodd ei fod yn hoyw. Canfu ddihangfa ym myd addysg, ac ymadawodd am Lundain, i fynychu prifysgol ac i wireddu ei rywioldeb.



