Disgrifiad
Yn y gyfrol hon, mae Gareth Jones yn dathlu traddodiad paffio Casnewydd a chymoedd Gwent a Mynwy drwy ganolbwyntio ar gampau 70 o baffwyr o dde-ddwyrain Cymru. Cawn hanes pedwar pencampwr byd yn cynnwys Joe Calzaghe, y mae llawer yn dadlau mai ef yw’r paffiwr Cymreig gorau erioed, ynghyd â nifer o bencampwyr Cymreig, Prydeinig ac Ewropeaidd.



