Disgrifiad
Ar ddydd Nadolig 1900, i groesawu’r ganrif newydd i dyddyn Bron Haul ar fryniau Hiraethog, ganed merch fach o’r enw Catherine i’r teulu Griffith. Mae ei hanes hi yn deyrnged i ddarn bach o ucheldir corsiog – cartref syml, di-nod yng nghanol nunlle. Er na chafodd Bron Haul le yn ein llyfrau hanes, mae stori’r tyddyn bychan hwn yn adlewyrchiad o…



